#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-781

Teitl y ddeiseb: Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar

Testun y Ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau na gwerthu tir i lywodraeth y DU i ddatblygu archgarchar ym Maglan.

Mae Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnig adeiladu 'archgarchar' â lle i 1600 o ddynion ar rostir Baglan.

Mae'r safle yn agos at gartrefi a chyfleusterau lleol a busnesau lleol, a bydd yn rhoi straen sylweddol ar ffyrdd a gwasanaethau iechyd yn yr ardal. Mae'r safle mewn parth menter ac wedi'i ddynodi ar gyfer defnydd economaidd yn ogystal â bod mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd. 

Mae gan Gymru eisoes lawer o leoedd gwag yn y carchardai sydd ganddi ar hyn o bryd.

Byddai'r carchar hwn yn cyflwyno'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â charchardai mawr ac ni chafwyd unrhyw warant gan y naill lywodraeth na'r llall ynglŷn â'r camau amddiffyn a fyddai'n cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo Port Talbot i ymdopi â nifer mor fawr o garcharorion.

Nid oes unrhyw sicrwydd tymor hir y byddai'r carchar newydd yn parhau i gael ei neilltuo ar gyfer carcharorion categori C. Gellid ei newid yn y dyfodol i gadw troseddwyr mwy peryglus.

Gall Port Talbot wneud yn well na hyn ac mae ein tref yn haeddu llawer mwy. A wnewch chi lofnodi'r ddeiseb a dweud wrth Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, DIM archgarchar ym Mhort Talbot?

 

Y cefndir

Ar 22 Mawrth 2017, cyhoeddodd yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder mewn datganiad ysgrifenedig fod pedwar safle posibl wedi cael eu nodi ar gyfer carchardai newydd yng Nghymru a Lloegr. Roedd un o'r safleoedd hyn yng Nghastell-nedd Port Talbot. Nododd y byddai'r penderfyniadau terfynol ar y carchardai newydd yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio, yn ogystal â gwerth am arian a fforddiadwyedd. Aeth ymlaen i nodi mai un o'r rhesymau dros adeiladu carchardai newydd oedd er mwyn cau hen garchardai a rhai sy'n orlawn.

Yn ystod dadl yn neuadd San Steffan ar 12 Medi 2017, dywedodd y Gweinidog carchardai, Sam Gyimah AS:

When assessing where to build new prisons, the Ministry of Justice worked closely with the Welsh Government to identify suitable sites for a new prison build in Wales. We undertook a comprehensive evaluation of more than 20 sites in south Wales, ensuring that various factors were taken into consideration, such as preference for sites located along the M4 corridor because of their accessibility and the travel time benefits they would bring.

After careful consideration, Port Talbot was selected as the best potential site for a new category C prison build in Wales. That was for a number of reasons, including the capacity of local infrastructure to support the prison and the potential to maximise the benefits of investment in the local community. In addition, the site is owned by the Welsh Government, who are supportive of our work to progress these plans. As I mentioned, supply and demand for prison places are misaligned. For example, we do not have enough category C prison places in south Wales; the proposed prison at Port Talbot would address that shortfall.

Mae pum carchar yng Nghymru ar hyn o bryd (mae Prescoed yn rhan o garchar Brynbuga):

§    Berwyn (Wrecsam)

§    Caerdydd

§    Parc (Pen-y-bont ar Ogwr)

§    Abertawe

§    Brynbuga/Prescoed

Y carchar diweddaraf a agorwyd yng Nghymru yw Carchar Ei Mawrhydi Berwyn, Wrecsam. Fe'i hagorwyd ym mis Chwefror 2017. Bydd yn darparu dros 2,000 o leoedd pan fydd yn gwbl weithredol. Nid oes unrhyw garchardai i fenywod yng Nghymru, nac unrhyw garchardai ar gyfer y troseddwyr sy'n peri'r risg uchaf.

Er bod y rheini sy'n dadlau o blaid y carchar arfaethedig ym Maglan wedi pwysleisio'r manteision economaidd, ymddengys fod cryn wrthwynebiad yn lleol. Mae'r materion a godwyd gan wrthwynebwyr y cynnig yn cynnwys yr effaith ar y gymuned leol a busnesau lleol, yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth a pha mor addas yw'r tir ei hun ar gyfer gwaith adeiladu. Nodwyd hefyd fod cyfyngiadau ar ddefnydd y tir a allai beri problem i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder pe bai'n penderfynu bwrw ymlaen â'r datblygiad. Codwyd materion ehangach hefyd, fel pa mor effeithiol yw carchardai mwy o faint wrth leihau aildroseddu.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i gwestiwn brys gan David Rees AC ar 22 Mawrth 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Rwyf wedi cael trafodaethau uniongyrchol â Gweinidog carchardai’r DU ynglŷn â’r safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot. Mae gan y cynnig hwn botensial i gynnig cyfleuster modern, addas i’r diben i dde Cymru, sy’n canolbwyntio ar adsefydlu, a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

Aeth ymlaen i ateb sawl cwestiwn ynglŷn â'r mater gan Aelodau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y Cadeirydd (Hydref 2017), gan gadarnhau ei safbwynt blaenorol a'i bod yn cydnabod cryfder barn y deisebwyr. Mae'r llythyr yn nodi mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am garchardai, ac y bydd unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r broses gynllunio, a fydd yn rhoi cyfle i drigolion roi eu barn i gynghorwyr.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers mis Mawrth 2017, codwyd y mater hwn gan Aelodau'r Cynulliad sawl gwaith yn y Siambr ac mewn cwestiynau ysgrifenedig. Mae'r materion a godwyd yn cynnwys effaith carchar newydd ar wasanaethau lleol mewn meysydd datganoledig gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, tai, addysg a thrafnidiaeth. Mae Aelodau'r Cynulliad hefyd wedi gofyn a fydd y lleoedd carchar ychwanegol yn cael eu defnyddio i ddarparu llety i garcharorion o Gymru. Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru waith ymchwil ar 22 Mawrth 2017 a oedd yn nodi y byddai mwy na digon o leoedd carchar yng Nghymru i garcharorion o Gymru pe bai'r carchar arfaethedig ym Maglan yn mynd rhagddo.

Ar 20 Medi 2017, roedd dadl gan Blaid Cymru yn trafod archgarchardai yn y Senedd. Roedd y cynnig, ymhlith pethau eraill, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu'r carchar. Yn ystod y ddadl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw carchardai. Cysylltodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymarfer ledled Cymru a Lloegr i weld a oeddem yn gwybod am unrhyw dir y gellid ei ddatblygu ar gyfer carchar o’r maint hwn. Fe wnaethom ddarparu rhestr o 20 safle. [...] Rydym yn darparu’r math hwn o wasanaeth yn rheolaidd i bob busnes a phob datblygwyr.

Aeth ymlaen i nodi nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses o ddewis Baglan fel y safle a ffefrir ar gyfer carchar newydd:

Llywydd, rydym wedi rhoi dwy drwydded i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wneud gwaith ar y tir hwnnw. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau lliniaru ecolegol ac unwaith eto, mae hyn yn arfer cyffredin. Mae datblygwyr am wybod beth yw cyfansoddiad y tir cyn cyflwyno cais cynllunio. Hefyd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gofyn inni drafod cytundeb opsiwn ar gyfer y tir. Nid ydym wedi gwerthu’r tir i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder na dod i gytundeb ynglŷn â gwerthu nac wedi trafod ei werth. Nid yw’n fait accompli fel y mae llawer wedi awgrymu yn y lle hwn ac yn allanol, fel y clywsom. Os cyflwynir cynigion eraill ar gyfer y tir, nid oes dim i’n hatal rhag asesu manteision economaidd hynny a derbyn cynnig da.

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet fwriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gynnal digwyddiad deuddydd i'r gymuned hefyd a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr a thrigolion weld y cynigion a gwneud sylwadau arnynt cyn i gais cynllunio ffurfiol gael ei gyflwyno.

Sylw yn y cyfryngau

Mae'r mater wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau. Mae lincs i nifer o erthyglau isod:

Newyddion y BBC, 22 Mawrth 2017, New prison in Port Talbot announced by Ministry of Justice

Newyddion y BBC, 21 Awst 2017, Public safety 'priority' in Baglan prison plans, MoJ says

Newyddion ITV, 23 Awst 2017, Former inmate criticises plans for a new 'super prison' in Port Talbot

Newyddion y BBC, 20 Medi 2017, Port Talbot prison should be moved to Swansea, says MP

Newyddion y BBC, 11 Hydref 2017, Baglan prison: Planned site's restriction concern

Newyddion y BBC, 25 Hydref 2017, Port Talbot prison: Petition against Baglan plan presented

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.